2024 Programme

Across 2024 SWAY is anchoring around a series of artist visits and commissions, in conversation with others and their places, listening out from Barry for resonances, echoes and signals.

Centring embodied research and situated knowledge, our thinking, learning and dreaming will be brought together in a companion publication to launch Spring 2025.

Following a quieter year of research, SWAY continues to explore the potential of intertidal thinking with artists, curators, researchers, writers and residents. 

Approaching the intertidal as an entangled place to learn, dream and collectively imagine with others, SWAY asks how the imaginaries which can take us into intertidal ecologies (places which are forever shifting, becoming and dissolving) might also help us to picture alternative ways of relating, being, thinking. 

SWAY is unfolding in collaboration with locally based organisations and community groups - including the Watchtower Waders (a local swimming group), Wales Coastal Monitoring Centre (looking at coastline evolution in Wales) and The School of Earth and Environmental Sciences (Cardiff University). 

Yn ystod 2024 bydd SWAY yn gosod angor ymysg cyfres o ymweliadau a chomisiynau gydag artistiaid. Drwy wrando’n astud o’n cartref yn y Barri am soniareddau, adleisiau a signalau, byddwn yn cynnal sgwrs gydag eraill a’u llefydd nhw.

Bydd ymchwil ymgorfforedig a gwybodaeth lleoledig yn ganolog i’r gwaith, a daw ein ffyrdd o feddwl, dysgu a dychmygu ynghyd mewn cyhoeddiad cydblethol gaiff ei lawnsio yn ystod Gwanwyn 2025. 

Gan ddilyn blwyddyn dawelach o ymchwil, mae SWAY yn parhau i edrych ar botensial meddylfryd rhynglanwol drwy ein gwaith gydag artistiaid, curaduron, ymchwilwyr, sgwennwyr a phreswylwyr.

Gan ddod at y rhynglanwol fel gofod clymog i ddysgu, breuddwydio a dychmygu’n gasglebol, mae SWAY yn holi sut y gall y dychmygion sy’n medru mynd â ni at ecolegau rhynglanwol (llefydd sydd yn newid, yn dod i fodolaeth ac yn erydu’n barhaus) hefyd ein helpu ni i ddelweddu ffyrdd amgen o berthyn, bod a meddwl. 

Mae SWAY yn cyd-ymwneud â sefydliadau lleol a grwpiau cymunedol - gan gynnwys Watchtower Waders (grŵp nofio lleol), Canolfan Fonitro Arfordir Cymru (sy’n ystyried esblygiad llinell yr arfordir) ac Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd Prifysgol Caerdydd. 

Gweni Llwyd, Silicon Retina at Green Man Festival, 2021

Taru Elfing - Maija Mustonen, Buoyant, photo by Jussi Virkkumaa

Beverley Bennett, Simon Says Dadda, Image Credit Matt Denham

Eduardo Navarro, Vegetal Ear, Proyectos Ultravioleta (2021)

  • Gweni Llwyd is an artist who creates works across both tactile and digital realms. Her practice playfully weaves together personal, collective and more-than-human experiences, drawing our attention to how all life is part of a messy, shared metabolism.

    Gweni was recently artist in residence with Elan Links at the Elan Valley, developing research around the form shifting and time travelling potentials of water. Between 2021-2023 Gweni was based in Rotterdam, Netherlands, while on the MA Fine Art programme at Piet Zwart Institute. Her research and making focused on the absurdity of capitalist time scales in relation to natural processes and forces.

    Recent projects include: Elan Links Residency (2023); Partial View, MAMA, Rotterdam (2023); Traces of a Cathode, s1 artspace, Sheffield (2023); One Day Home, W139, Amsterdam (2022); Silicon Retina, Green Man Festival (2021). Gweni has an MA in Fine Art from Piet Zwart Institute, Rotterdam and a BA in Fine Art from Cardiff School of Art and Design.

    Artist sy’n creu gwaith mewn bydoedd diriaethol a digidol yw Gweni Llwyd. Mae ei hymarfer yn plethu profiadau personol gyda rhai casglebol a mwy-na dynol mewn modd chwareus, gan dynnu ein sylw at y ffaith fod pob peth byw yn rhan o un metaboledd mawr blêr.

    Yn ddiweddar, roedd Gweni yn artist preswyl gydag Elan Links yng Nghwm Elan, gan ddatblygu ymchwil ynglŷn â photensial dŵr i newid ei ffurf a theithio drwy amser. Rhwng 2021-2023 roedd Gweni’n byw yn Rotterdam, Yr Iseldiroedd, yn astudio rhaglen MA Celf Gain yn Sefydliad Piet Zwart. Roedd ei hymchwil a’i hymarfer yn canolbwyntio ar abswrdiaeth ffyrdd cyfalafol o fesur amser mewn perthynas â phrosesau a grymoedd naturiol.

    Mae ei phrojectau diweddar yn cynnwys: Preswylfa Elan Links (2023); Partial View, MAMA, Rotterdam (2023); Traces of a Cathode, s1 artspace, Sheffield (2023); One Day Home, W139, Amsterdam (2022); Silicon Retina, Gŵyl Y Dyn Gwyrdd (2021).

    Mae gan Gweni MA mewn Celf Gain o Sefydliad Piet Zwart, Rotterdam a BA mean Celf Gain o Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd.

  • Taru Elfving is a curator and writer based in Helsinki nurturing site-sensitive enquiries at the intersections of ecological, feminist and decolonial practices. As artistic director of CAA Contemporary Art Archipelago, Elfving is currently leading the research residency programme Spectres in Change on the island of Seili in the Baltic Sea in collaboration with Archipelago Research Institute of Turku University. Previously she has worked as Head of Programme at Frame Contemporary Art Finland and HIAP Helsinki International Artist Programme.

    Curatorial collective CAA Contemporary Art Archipelago has been initiating long-term multidisciplinary projects in the Turku Archipelago, off the south-west coast of Finland in the Baltic Sea, since 2009. The research projects by CAA are all committed to bringing local practitioners and experts into dialogue with international colleagues and peers, drawn together to address environmental and societal urgencies both in their local specificities and planetary resonances.

    Curadur a sgwennwr yw Taru Elfving sy’n byw yn Helsinki sy’n meithrin ymholiadau safle-sensitif ar y croestoriad rhwng ymarferion ecolegol, ffeministaidd a dad-drefedigaethol. Fel cyfarwyddwr artistig CAA Contemporary Art Archipelago, Elfving sy’n arwain rhaglen breswylfa ymchwil Spectres in Change ar hyn o bryd ar ynys Seili yn y Môr Baltig mewn cydweithrediad gyda Sefydliad Ymchwil Ynysfor Prifysgol Turku. Yn flaenorol bu’n gweithio fel Pennaeth Rhaglen Gelf Gyfoes Frame Y Ffindir a Rhaglen Artistiaid Rhyngwladol HIAP Helsinki.

    Mae casgleb curadurol CAA Contemporary Art Archipelago wedi bod yn ysgogi projectau amlddisgyblaethol hirdymor yn Ynysfor Turku, oddi ar arfordir de-orllewin Y Ffindir yn y Môr Baltig, ers 2009. Mae’r holl brojectau ymchwil gan CAA yn ymrwymedig i ddechrau deialog rhwng ymarferwyr ac arbenigwyr lleol gyda chydweithwyr a chyfeillion rhyngwladol, yn cael eu hel ynghyd er mwyn mynd i’r afael â materion brys yn ymwneud â’r amgylchedd a chymdeithas, o safbwynt eu penodolrwydd lleol yn ogystal â’u soniarusrwydd planedol.

  • Eduardo Navarro creates works rooted in a strong belief in the power of uncertainty, intuition and curiosity and the place where language allows us to inhabit the space of non-human entities such as a cloud, a flower or an octopus, imagining how they sense the world and communicate in it.

    His practice expands across sculpture, drawing and performance, inviting us to enter a state of deep contemplation, which the artist hopes will blur the illusory boundary between the inside and outside world, knowledge and nature.

    Recent solo exhibitions include Proyectos Ultravioleta, Guatemala (2021); Gasworks, London (2020); PIVÔ, São Paulo (2019) MAC Niterói, Rio de Janeiro (2019); The Drawing Center, New York (2018). His work has also recently been exhibited at the Gherdenïa Biennial (2022) and the Toronto Biennial (2022). He is currently a Visual Arts Scholar at the Botín Foundation with F.O.C.A - Foundation for the Oceanic Contemplation of Affection.

    Mae Eduardo Navarro yn creu gweithiau wedi’u gwreiddio mewn cred gref ym mhŵer ansicrwydd, greddf a chwilfrydedd a’r man lle mae iaith yn ein galluogi i breswylio yng ngofod endydau annynol megis cwmwl, blodyn neu wythdroed, gan ddychmygu sut mae hwythau’n gwneud synnwyr o’r byd a chyfathrebu o’i fewn.

    Mae ei ymarfer yn ehangu ar draws cerflunio, arlunio a pherfformio, gan ein gwahodd i fynd i ofod o fyfyrdod dwfn, y mae’r artist yn gobeithio fydd yn cymylu’r ffin rhwng y byd mewnol a’r byd allanol, gwybodaeth a natur.

    Mae arddangosfeydd unigol diweddar Eduardo yn cynnwys Proyectos Ultravioleta, Guatemala (2021); Gasworks, Llundain (2020); PIVÔ, São Paulo (2019) MAC Niterói, Rio de Janeiro (2019); The Drawing Center, Efrog Newydd (2018). Mae ei waith hefyd wedi cael ei arddangos yn ddiweddar yn y Gherdenïa Biennial (2022) a’r Toronto Biennial (2022). Ar hyn o bryd mae’n Ysgolor Celfyddydau Gweledol yn Sefydliad Botín gyda F.O.C.A - Foundation for the Oceanic Contemplation of Affection.

  • Beverley Bennett is an artist-filmmaker whose work revolves around the possibilities of drawing, performance and collaborative research.

    Her practice is connected to multiple ways of making. The first of these is developing and hosting ‘gatherings’, the second is an investigation of the idea of The Archive and the third is collaboration. Beverley often begins projects by creating or adding to her own extensive personal archives, and through ‘gatherings’ Beverley creates cyclical reciprocal processes, where everyone learns from each other.

    Frequently through socially political work with other artists, community members, young children and their families, Beverley’s practice provides spaces to unpick ideas around what constitutes an art practice and for whom art is generated.

    Bennett's work has been shown nationally and internationally; venues include Grand Union, Birmingham (2023); the British Film Institute (BFI), London (2023); Birmingham 2022 Festival (2022); CinemaAfrica Film Festival, Stockholm (2018); Encounters Short Film Festival, Bristol (2017); Wysing Art Centre, Cambridgeshire (2017); Spike Island, Bristol (2017).

    Artist a ffilm-wneuthurwr yw Beverley Bennet. Mae ei gwaith yn cylchdroi o gwmpas posibiliadau ymchwilio casglebol, arlunio a pherfformio.

    Mae ei hymarfer yn gysylltiedig â nifer o ffyrdd o greu. Y cyntaf o’r rhain yw datblygu a chynnal ‘cynulliadau’, yr ail yw ymchwilio i’r syniad o ‘Yr Archif’ a’r drydedd yw cydweithio. Mae Beverley yn aml yn cychwyn projectau drwy greu neu ychwanegu at ei harchifau personol helaeth, a thrwy ‘gynulliadau’ mae Beverley yn creu prosesau cylchol, lle mae pawb yn dysgu oddi wrth ei gilydd.

    Drwy gydweithio gydag artistiaid eraill, aelodau o’r gymuned, plant ifanc yn ogystal â’u teuluoedd ar waith sy’n gymdeithasol wleidyddol, mae ymarfer Beverley Bennet yn aml yn darparu gofodau i ddatod syniadau’n ymwneud â’r hyn sy’n ffurfio ymarfer celfyddydol ac ar gyfer pwy y caiff celf ei gynhyrchu.

    Mae gwaith Bennet wedi cael ei arddangos yn genedlaethol a rhyngwladol; mewn lleoliadau megis Grand Union, Birmingham (2023); y British Film Institute (BFI), Llundain (2023); Gŵyl Birmingham 2022 (2022); Gŵyl Ffilmiau CinemaAfrica, Stockholm (2018); Gŵyl Ffilmiau Byrion Encounters, Bryste (2017); Canolfan Gelf Wysing, Sir Caergrawnt (2017); Spike Island, Bryste (2017).

Sophie K Rosa

Phoebe Davies, Fieldwork Notes, 2022

 Sophie Mak-Schram and Marteinn Sindri Jonsson practice sharing, part of A Field, photograph by Iswanto Hartono

Kandace Siobhan Walker  ‘Dreamerism’ 2024, Southwark Park Galleries. Photo: Rita Silva

  • Fieldwork Studio is led by artist and director Phoebe Davies in partnership with Slade Farm Organics, a three-generation family farm tenancy situated on the Glamorgan Heritage Coast. Phoebe Davies works across moving-image, performance, print and sound, and the Fieldwork Studio programme spans artist development, rural residencies and community growing. Fieldwork is artist-led, and centres approaches from organic farming and rural culture to support regenerative practices, rest, care and sustainable working within the arts, ecology and agriculture.

    The Fieldwork residencies aim to centre the needs of artists; artistically, socially and economically, offering space and support for people to reflect and take time to realise their ideas without prescribed outcomes. Fieldwork artists in residence 2023: Jenny Moore ~ WildMix / Beth Kettel; 2022: Freya Dooley / Cinzia Mutigli; 2021: Seyi Adelekun / Joseph June Bond / Qila Gill / Marie Malarie / Wet Mess / Rose Nordin / Keziah Quarcoo.

    Yr artist a’r cyfarwyddwr Phoebe Davies sy’n arwain Fieldwork Studio, mewn partneriaeth â Slade Farm Organics, tair cenhedlaeth o denantiaid fferm sydd wedi’i leoli ar Arfordir Treftadaeth Morgannwg. Mae Phoebe Davies yn creu symudluniau, perfformiadau, argraffwaith a sain, ac mae rhaglen Stiwdio Fieldwork yn cwmpasu datblygiad artistiaid, preswylfeydd gwledig a thyfu cymunedol. Artistiaid sy’n arwain Fieldwork, ac maent yn gosod dulliau ffermio organig a diwylliant gwledig yn ganolog i’w gwaith o gefnogi arferion adfywiol, gorffwys, gofal a gweithio’n gynaliadwy o fewn y celfyddydau, ecoleg ac amaeth.

    Bwriad preswylfeydd Fieldwork yw gosod anghenion artistiaid yn y canol; yn artistig, yn gymdeithasol ac yn economaidd, gan gynnig gofod a chefnogaeth i bobl allu adfyfyrio a dod at eu syniadau yn eu hamser eu hunain yn hytrach na dilyn gofynion penodedig. Artistiaid preswyl Fieldwork 2023: Jenny Moore ~ WildMix / Beth Kettel; 2022: Freya Dooley / Cinzia Mutigli; 2021: Seyi Adelekun / Joseph June Bond / Qila Gill / Marie Malarie / Wet Mess / Rose Nordin / Keziah Quarcoo.

  • Sophie K Rosa is a writer living in London. Her first book Radical Intimacy (published by Pluto Press, 2023) explores how the capitalist system shapes our intimate lives and what we can do about it. Through writings on self-care, romance, sex, family, home, death and friendship, Radical Intimacy considers what it might mean for things to be otherwise, what our desires might look like in a better world, and how care, connection and community can support our struggles for liberation.

    Presently, she writes an anti-capitalist advice column - Red Flags - for Novara media, is working towards her next book, and is training in psychoanalytic psychotherapy. She also writes a newsletter called Soft Verges. Sophie has also written for the Independent, the Guardian, Buzzfeed, VICE, Al Jazeera, Aeon and CNN.

    Awdur sy’n byw yn yn Llundain yw Sophie K Rosa. Mae ei llyfr cyntaf Radical Intimacy (wedi’i gyhoeddi gan Pluto Press, 2023) yn archwilio sut y mae’r system gyfalafol yn siapio ein bywydau preifat a’r hyn y gallwn wneud yn ei gylch. Drwy gyfrwng trafodaeth ar hunan-ofal, rhamant, rhyw, teulu, marwolaeth a chyfeillgarwch, mae Radical Intimacy yn ystyried sut all bethau fod yn wahanol, sut olwg fyddai ar ein dyheadau mewn byd gwell, a sut all gofal, cysylltiad a chymuned gefnogi ein brwydr am ryddid.

    Ar hyn o bryd, mae Sophie yn ysgrifennu colofn cynghorion gwrth-gyfalafol - Red Flags - ar gyfer Novara media, mae’n gweithio ar ei llyfr nesaf, ac yn hyfforddi mewn seicotherapi seico-ddadansoddol. Mae hi hefyd yn ysgrifennu cylchlythyr o’r enw Soft Verges. Mae Sophie hefyd wedi ysgrifennu ar gyfer yr Independent, y Guardian, Buzzfeed, VICE, Al Jazeera, Aeon a CNN.

  • Kandace Siobhan Walker is a writer and artist of Jamaican-Canadian, Saltwater Geechee and Welsh heritage. She writes poetry, fiction and creative non-fiction, and creates moving image and installation works. Her work often explores ideas of ecology, spirituality and resistance, imagining speculative futures and anti-capitalist modalities.

    Kandace is the author of Cowboy (CHEERIO, 2023), shortlisted for the Felix Dennis Prize for Best First Collection, and Kaleido (Bad Betty Press, 2022). Exhibitions and commissions include: Call the Waves, Chapter Gallery, Cardiff (2022), Wales in Venice 10 Commission with Artes Mundi (2023), and Jerwood Survey III (2024-2025).

    Sgwennwr ac artist o dras Jamaicaidd-Canadaidd, Saltwater Geechee a Chymreig yw Kandace Siobhan Walker. Mae’n ysgrifennu barddoniaeth, ffuglen a gwaith ffeithiol greadigol, ac yn creu symudluniau a gosodwaith. Mae ei gwaith yn aml yn archwilio syniadau’n ymwneud ag ecoleg, yr ysbrydol a gwrthsafiad, gan ddychmygu dyfydolau damcaniaethol a dulliau gwrth-gyfalafol.

    Kandace yw awdur Cowboy (CHEERIO, 2023), a gyrhaeddodd rhestr fer Gwobr Felix Dennis ar gyfer Casgliad Cyntaf Gorau, a Kaleido (Bad Betty Press, 2022). Mae ei harddangosfeydd a chomisiynau yn cynnwys: Call the Waves, Oriel Chapter, Caerdydd (2022), Comisiwn Cymru yn Fenis 10 gydag Artes Mundi (2023), a Jerwood Survey III (2024-2025).

  • Marteinn Sindri Jónsson, Sophie Mak-Schram and Julius Thinnes like to think, in action, together. Respectively a philosopher and radio-maker, artistic collaborator and experiential educator, and curator and alternative living collective member, they have collaborated in various ways since 2023.

    These collaborations include the convening of A Field of Where, What, When in Germany in March 2023, which brought together artists and cultural groups working around notions of land and place-(un)making.

    Marteinn Sindri Jónsson is a philosopher, active across artistic and cultural fields through practice, collaborations, publishing and research, most recently developing a PhD focusing on socially and politically engaged practice in new 'New Germany'.

    Julius Thinnes curates and studies cultural management, with a focus on socially engaged art, community-based cultural organisations and land-use or place- (un)making. He is a member of the cultural and housing project Die Blaue Blume e.V. in Friedrichshafen, Germany.

    Spanning experiential education, decolonial and collective practices and artistic and art historical research, Sophie Mak-Schram convenes, writes, reads, makes objects to learn with or listen to, facilitates and performs. She recently completed a PhD focused on the 'and' between art and education.

    Mae Marteinn Sindri Jónsson, Sophie Mak-Schram a Julius Thinnes yn hoffi meddwl, drwy weithred, ar y cyd. Yn athronydd a gwneuthurwr radio, yn gydweithiwr artistig ac addysgwr drwy brofiad, ac yn guradur ac aelod o gasgleb byw’n amgen yn y drefn honno, maen nhw wedi cydweithio mewn amryfal ffyrdd ers 2023.

    Mae’r cyd-greu hwn yn cynnwys cynnull A Field of Where, What, When yn Yr Almaen ym mis Mawrth 2023, a ddaeth ag artistiaid a grwpiau diwylliannol ynghyd sy’n gweithio ar themâu yn cynnwys tir a (dad)greu llefydd.

    Athronydd yw Marteinn Sindri Jónsson, sy’n weithredol mewn meysydd celfyddydol a diwylliannol drwy gyfrwng ei ymarfer, cydweithio, cyhoeddi ac ymchwil, gan ddatblygu doethuriaeth yn ddiweddar ar ymarfer sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol ac yn wleidyddol yn yr ‘Almaen Newydd’.

    Mae Julius Thinnes yn curadu ac yn astudio rheolaeth ddiwylliannol, gan ganolbwyntio ar gelf sy’n ymgysylltu’n gymunedol, sefydliadau diwylliannol sydd wedi’u lleoli yn y gymuned, a defnydd tir neu (dad)greu llefydd. Mae’n aelod o’r project tai a diwylliant Die Blume e.V. yn Friedrichshafen, Yr Almaen.

    Drwy gwmpasu addysgu drwy brofiadau, arferion dad-drefedigaethol a chasglebol, ac ymchwil ar gelfyddyd a chelf hanesyddol, mae Sophie Mak-Schram yn cynnull, sgwennu, darllen, yn creu gwrthrychau i ddysgu gyda neu i wrando arnynt, ac yn hwyluso a pherfformio. Yn ddiweddar cwblhaoedd ddoethuriaeth oedd yn canolbwyntio ar yr ‘a’ rhwng addysg a chelf.

2022 Programme

Mirror I: The Sea

Call the Waves

sing for them to see

Les techniciens de l'eau

Telling like a river

Saints & Haints

Stellar Footprints

Water, land & borders

Cloudy Waters

Sea Ear

Intergenerational Soundings